LyricFind Logo
LyricFind Logo
Profile image icon
Lyric cover art

o IV i V

•

1991

Yn Iach i ti Gymru

Apple Music logo
Deezer logo
Spotify logo
Lyrics
Yn iach i ti Gymru
Ffarwél i'th fynyddoedd
Dy nentydd grisialog
A'th ddolydd di-ail
Y coedydd lle treuliais
Fy ieuanc flynyddoedd
Lle gwyliais agoriad
Y blodau a'r dail
Mae'r llong yn y porth
Yn disgwyl amdanaf
O gwae i mi feddwl
Ymadael erioed
Ffarwél o'r holl famau
Y buraf a'r lanaf
A'm cartref gwyn annwyl
Yng nghanol y coed

Fy nwylaw ddychwelant
Yn llawn neu yn weigion
I agor drws annwyl
Fy nghartref gwyn draw
Mae'r afon yn sisial
Yng nghlust yr hen eigion
Gan ofyn pa ddiwrnod
Yn ôl â fi ddaw
O am dy hen awyr
I wrido fy ngruddiau
A'm hwian fel plentyn
I huno mewn hedd
A phan y gadawaf
Hen fyd y cystuddiau
Rhwng muriau'r hen fynwent
O torrwch fy medd

WRITERS

Traditional

PUBLISHERS

Lyrics © Public Domain

Share icon and text

Share


See A Problem With Something?

Lyrics

Other

More From This Album

Lyric cover art

o IV i V

1991

From This Artist