LyricFind Logo
LyricFind Logo
Profile image icon
Lyric cover art

o IV i V

•

1991

Y Gwydr Glas

Apple Music logo
Deezer logo
Spotify logo
Lyrics
Os daw 'nghariad yma heno, yma heno
I guro'r gwydyr glas
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo
Na atebwch mono'n gas
Nad ydyw'r ferch ddim gartre
Na'i h'wyllys da'n y tŷ
Llanc ifanc o'r plwy arall, o'r plwy arall
Sydd wedi mynd â hi

Pe meddwn edyn eryr, edyn eryr
Mi fyddwn lawer gwell
I hedeg at fy nghariad, at fy nghariad
Sydd yn y gwledydd pell
Dros diroedd maith a moroedd
Gobeithio'i fod e'n iach
Rwy'n caru'r tir lle cerddodd, tir lle cerddodd
O wraidd y galon fach

Fy nghalon sydd cyn drymed, sydd cyn drymed
Â'r march sy'n dringo'r rhiw
Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen
Ni fedrwm yn fy myw
Mae'r esgid yn fy ngwasgu
Mewn man nas gwyddoch chi
A llawer gofid meddwl, gofid meddwl
Sy'n torri 'nghalon i

Os daw fy 'nghariad yma heno, yma heno
I guro'r gwydyr glas

WRITERS

Bryan Martin Davies, Traditional

PUBLISHERS

Lyrics © Public Domain

Share icon and text

Share


See A Problem With Something?

Lyrics

Other

More From This Album

Lyric cover art

o IV i V

1991

From This Artist