LyricFind Logo
LyricFind Logo
Profile image icon
Lyric cover art

o IV i V

•

1991

Swydd Amwythig

Apple Music logo
Deezer logo
Spotify logo
Lyrics
Wyt ti'n mynd i Swydd Amwythig
Gyda'th gap di yn dy law?
Mynd o'r bryniau i gordota
Am waith yn Swydd Amwythig draw?
Saith o blant yr hen dyddynwr
Bellach wedi codi pac
Bodlon derbyn cyflog Padi
Yn y mwd ac ar darmac
Gwŷr Amwythig ydi'r giangars
Sais o bell fo ydi'r bos
Ond unrhyw le mae angen labrws
Mae lle i Gymro bach heb os
Wyt ti'n mynd i Swydd Amwythig
Gyda'th gap di yn dy law?
Llanc o'r bryniau ar ei liniau
Mynd i Swydd Amwythig draw

Fuest ti yn Swydd Amwythig
Efo pladur ar dy gefn?
Cael medelwyr cry o'r bryniau
I'r cynhaeaf oedd y drefn
Cerdded yno dros y Berwyn
Cynaeafu'r tiroedd bras
Cysgu ar y gwellt agored
Digon pell o ffordd y plas
Lladd eu hunain wrth lafurio
Dros ffarmwr tew y ffermdy coch
Rhoi sofrenni aur y gwenith
Am 'chydig o geiniogau coch
Fuest ti yn Swydd Amwythig
Efo pladur ar dy gefn?
Llanc o'r bryniau ar ei liniau
Wedi'r cyfan dyna'r drefn

A ei di i Swydd Amwythig
Mynd i newid hyn o drefn?
Efo bwa ar dy ysgwydd
Cawell saethau ar dy gefn
Mynd i fynnu cael dy hawliau
Carn dy gleddyf yn dy ddwrn
A fedri dithau nawr wynebu
Y meistri hyn a aeth yn fwrn
Owain acw sydd yn arwain
Fe safwn ni nid mynd dan draed
Troi a thorri'r hen gadwyni
Dad wneud yr hyn a wnaed
Wyt ti'n mynd i Swydd Amwythig
Mynd i newid hyn o drefn?
Llanc o'r bryniau ymwrola
Dangos mêr dy asgwrn cefn

WRITERS

Traditional

PUBLISHERS

Lyrics © Public Domain

Share icon and text

Share


See A Problem With Something?

Lyrics

Other

More From This Album

Lyric cover art

o IV i V

1991

From This Artist